Mae Gwasanaethau Plant Core yn cynnig gwasanaethau cefnogol o safon uchel a ddatblygwyd trwy bartneriaeth â theuluoedd, cymunedau ac Awdurdodau Lleol er mwyn cynnig y deilliannau gorau posibl i blant a phobl ifanc. Credwn mewn buddsoddi yn nyfodol plant, a , thrwy ymyrraeth gynnar, ymyrryd mewn materion ymddygiadol, materion addysgol, a rhwygiadau teuluol.
Gyda’n gilydd, gallwn sefydlu ac adfywio ystod o wasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion plant a’u teuluoedd drwy’r Deyrnas Unedig.
Yma yng Ngwasanaethau Plant Core, deallwn fod adeiladu unedau teuluol cryfach yn helpu darparu’r amgylchedd cywir ar gyfer llwyddiant cynaliadwy ymysg plant a phobl ifanc. Ein nod yw darparu ansawdd a chydymffurfiad, ac i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed trwy’r gwasanaethau holistig a hyblyg sydd angen arnynt
Er mwyn helpu cefnogi teuluoedd yn y gwaith arbennig maen nhw’n gwneud, rydym yn darparu'r gwasanaethau canlynol:
Mae gan Wasanaethau Plant Core ystod eang o wasanaethau wedi eu datblygu mewn partneriaeth â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol gofal plant er mwyn darparu popeth allai fod angen arnoch.
Os ydych yn Awdurdod Lleol neu’n rhiant/ gwarcheidwad sy’n chwilio am lefel rhagorol o gefnogaeth, ffoniwch ni heddiw ar 0800 622 6114. Gyda’n gilydd, gallwn wella deilliannau i deuluoedd a phobl ifanc.
Core Children's Services Limited, Registered in England and Wales
Registered Office: Malvern View, Saxon Business Park, Hanbury Road, Bromsgrove, Worcestershire, B60 4AD
Company Registration Number: 06537039